Finance CommitteeY Pwyllgor Cyllid
|
|
|
I’r ymgyngoreion ar y rhestr sydd wedi’i hatodi
|
|
Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA
28 Hydref 2011 |
Annwyl Gyfeillion,
Galwad am dystiolaeth – Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn galw am wybodaeth i’w helpu i graffu ar effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru. Hoffwn ichi roi gwybod inni am eich profiad chi o effaith y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru hyd yn hyn. Yn benodol, rydym yn bwriadu archwilio’r defnydd a wnaed o’r Rhaglenni Cydgyfeiriant a’r Rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2007 a 2013.
Yn y papur hwn, rydym yn cyflwyno pum cwestiwn penodol. Gallwch eu hateb i gyd neu rai ohonynt, neu gallwch roi gwybod inni yn gyffredinol am unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch effaith yr arian o’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd a wariwyd a’i effeithiolrwydd o ystyried yr amcanion a nodwyd ar ei gyfer, a ph’un a yw’r gwariant hwnnw yn dangos gwerth am arian.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gefndirol am y Pwyllgor Cyllid a’r hyn a olygir wrth gronfeydd strwythurol Ewropeaidd yn atodiad 1.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad
Diben yr ymchwiliad hwn yw archwilio’r defnydd a wnaed o gronfeydd strwythurol yr UE o fewn Rhaglenni Cydgyfeiriant a Rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2007 a 2013. Lle y bo’n bosibl, bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar archwilio effaith y gwariant a’i effeithiolrwydd o ystyried yr amcanion a nodwyd ar ei gyfer, a’i werth am arian.
Rhoi Gwybodaeth i’r Pwyllgor
Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i anfon tystiolaeth ysgrifenedig at Glerc y Pwyllgor Cyllid, i’r cyfeiriad uchod, gan sicrhau ei bod yn cyrraedd erbyn dydd Llun 9 Ionawr 2012. Os hoffech gyfrannu ond rydych yn credu na allwch gadw at y terfyn amser hwn, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor ar 029 2089 8597.
Gofynnwn ichi anfon fersiwn electronig, os yn bosibl, ar fformat MS Word neu Rich Text mewn e-bost at PwyllgorCyllid@cymru.gov.uk erbyn dydd Llun 9 Ionawr 2012.
Byddem yn ddiolchgar pe baech, ar ddechrau eich tystiolaeth, yn rhoi rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi neu am eich sefydliad, cyn cyflwyno eich sylwadau a’ch profiadau mewn perthynas â’r meysydd canlynol, neu rai ohonynt.
Yr hyn yr hoffem ei gael gennych: cwestiynau’r ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor wedi gwahodd y rheini sydd ar y rhestr ddosbarthu sydd wedi’i hatodi (Atodiad 2) i gyflwyno tystiolaeth. Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ond a fyddai’n dymuno cyfrannu yn eich tyb chi. Rhoddwyd copi o’r llythyr hwn ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.
Dyfodol y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru
Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad ar wahân ar hyn o bryd i ddyfodol y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd ar ôl 2013. Mae ei ymchwiliad wedi’i seilio ar gynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ynghylch dyfodol polisi cydgyfeiriant yr UE; maent yn diffinio sut y bydd y cyllid yn cael ei drefnu yn y dyfodol ac yn pennu rheolau cyffredin ar gyfer rheoli’r ffrydiau cyllido gwahanol. Er bod yr ymchwiliadau hyn yn annibynnol ar ei gilydd, gall y naill bwyllgor a’r llall ddefnyddio’r dystiolaeth a geir yn y ddau ymchwiliad.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i ddyfodol y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yma: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgCommitteeDetails.aspx?ID=228
Datgelu Gwybodaeth
Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau neu gynlluniau iaith Gymraeg ddarparu tystiolaeth ddwyieithog, yn unol â’u polisïau ynghylch rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd.
Mae’r Pwyllgor yn bwriadu rhoi’r papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac mae’n bosibl y byddant yn cael eu hargraffu gyda’r adroddiad maes o law. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth yr ystyrir ei bod yn ddata personol oni bai ei bod yn farn bersonol neu’n ddata personol ynghylch y ffaith mai chi yw awdur y dystiolaeth ac ym mha gyd-destun, os oes cyd-destun, rydych yn darparu eich tystiolaeth (er enghraifft, teitl swydd).
Fodd bynnag, os ceir cais am wybodaeth (sy’n cynnwys data personol) a gyflwynwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd angen datgelu rhan o’r data personol, neu’r holl ddata, a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys data personol a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi (fel y disgrifiwyd yn y paragraff uchod).
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, neu os nad ydych yn dymuno i’r ffaith mai chi yw awdur y dystiolaeth gael ei chyhoeddi, rhaid nodi hynny’n glir. Eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi, a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid a’i alwad am dystiolaeth drwy fynd i: www.cynulliadcymru.org
Yn gywir
Jocelyn Davies
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Atodiad 1- Gwybodaeth gefndirol
Pwy ydym ni?
Pwyllgor trawsbleidiol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r Pwyllgor Cyllid, sy’n cynnwys Aelodau o’r pedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad.
Nid yw’r Pwyllgor yn rhan o Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am gyflwyno adroddiadau ar gynigion y mae Gweinidogion Cymru yn eu cyflwyno i’r Cynulliad ynghylch defnyddio adnoddau.
Pa gronfeydd strwythurol Ewropeaidd y mae Cymru yn gymwys i’w cael ar hyn o bryd?
Mae Cymru yn gymwys i gael cymorth drwy gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ar gyfer tri math o raglenni yng nghyfnod rhaglennu 2007-2013:
¡ Cydgyfeiriant - (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd)
¡ Cystadleuaeth a chyflogaeth ranbarthol – (Dwyrain Cymru)
¡ Cydweithio tiriogaethol, gan gynnwys rhaglen drawsffiniol Iwerddon-Cymru.
Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru ac mae’n rheoli sut y caiff y rhaglenni cydgyfeiriant a chystadleurwydd eu rhoi ar waith yng Nghymru.[1] Maent yn canolbwyntio ar greu gwaith a thwf cynaliadwy yn unol ag agendâu Lisbon a Gothenburg yr Undeb Ewropeaidd, a pholisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru.
Mae’r rhaglenni Cydgyfeiriant ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cynnwys cyllid sy’n dod o ddwy gronfa strwythurol Ewropeaidd ar wahân: y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF -£1 biliwn) a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF - £690 miliwn). Bwriedir i’r arian sy’n dod o’r ERDF sicrhau cynnydd o ran trawsnewid economi'r rhanbarth i fod yn un gynaliadwy a chystadleuol, drwy fuddsoddi yn yr economi wybodaeth a helpu busnesau newydd a’r rheini sy’n bodoli eisoes i dyfu. Mae hefyd yn canolbwyntio ar adfywio cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a gwella trafnidiaeth. Defnyddir yr arian sy’n dod o’r gronfa gymdeithasol Ewropeaidd i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, ac i wella sgiliau a chynyddu lefelau cyflogaeth. Disgwylir y bydd y rhaglenni Cydgyfeiriant, ynghyd â’r arian cyfatebol, yn arwain at fuddsoddi cyfanswm o £3.5 biliwn yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae 90 y cant o gyfanswm gwerth y cronfeydd strwythurol a reolir gan Lywodraeth Cymru yn ystod cyfnod y rhaglenni presennol yn deillio o’r cronfeydd cydgyfeiriant.
Mae’r rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol hefyd yn cynnwys cyllid o’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (£60 miliwn) a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (£50 miliwn). Bwriedir defnyddio’r arian o’r gronfa datblygu rhanbarthol Ewropeaidd sydd ar gyfer gwella cystadleurwydd i helpu i drawsnewid Cymru yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, drwy helpu busnesau newydd a’r rheini sy’n bodoli eisoes i dyfu ac i symud i fyny’r gadwyn werth, a chynyddu ‘gwerth ychwanegol’ pob swydd. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar adfywio cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru ac ar fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Defnyddir yr arian o’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd sydd ar gyfer gwella cystadleurwydd i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, ac i wella sgiliau a chynyddu lefelau cyflogaeth. Disgwylir i gyfanswm buddsoddiadau’r rhaglen Gystadleurwydd, ynghyd â’r arian cyfatebol, fod yn tua £280 miliwn.
Hyd at 31 Awst 2011, roedd cyfanswm o 233 o brosiectau wedi’u cymeradwyo, sy’n cyfateb i fuddsoddiad o dros £3.1 biliwn ledled Cymru (daw £1.55 biliwn o hynny o gronfeydd yr UE, sef 82 y cant o gyfanswm yr arian o gronfeydd yr UE). Mae’r tabl a ganlyn yn dangos gwerth buddsoddiadau’r rhaglenni fel ar 31 Awst 2011.[2] (£m) |
|||
|
Cyfanswm |
Rhaglenni’r ERDF |
Rhaglenni’r ESF |
Arian o gronfeydd yr UE i Gymru |
1,906 |
1,136 |
770 |
Cyfanswm y dyraniad (gan gynnwys arian cyfatebol) |
3,256 |
2,007 |
1,249 |
Arian o gronfeydd yr UE sydd wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau’r UE |
1,550 |
848 |
701 |
Y cyfanswm sydd wedi’i glustnodi (gan gynnwys arian cyfatebol) |
3,130 |
1,798 |
1,331 |
Gwariant cronfeydd yr UE sydd wedi’i hawlio gan brosiectau’r UE ac a delir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru |
469 |
256 |
214 |
Cyfanswm y gwariant gan brosiectau’r UE |
990 |
572 |
418 |
Disgwylir i gylch cyfredol y rhaglenni Ewropeaidd
(2007-2013) gau i ymgeiswyr ar 31 Rhagfyr 2013, er y bydd y
gwariant yn parhau yn ystod 2015. Yn ôl Swyddfa Cyllid
Ewropeaidd Cymru, defnyddir dull mwy strategol ar gyfer
darparu’r cronfeydd yn y cylch hwn o raglenni, ac mae llai o
brosiectau, ond rhai mwy strategol, yn cyflawni
blaenoriaethau’r rhaglenni gweithredol o’i gymharu
â’r rhaglenni yng nghylch 2000-2006.
Ceir enghraifft o’r dull mwy strategol a ddefnyddir i ddarparu’r cronfeydd mewn dadansoddiad byr o’r buddiolwyr a gynhaliwyd. Dengys hwn fod 93 y cant o’r cyllid a gymeradwywyd hyd yn hyn yn gysylltiedig â phrosiectau sydd wedi’u harwain gan y sector cyhoeddus.
Llywodraeth Cymru yw prif noddwr 91 prosiect, a chyfanswm cyllid yr UE ar eu cyfer yw £691 miliwn. Mae hynny’n cyfateb i tua 40 y cant o brosiectau a bron i 45 y cant o gyllid yr UE a gymeradwywyd hyd yn hyn. Pe bai cynllun JEREMIE (£60m o gyllid Ewropeaidd), a reolir gan Cyllid Cymru, a chynllun JESSICA (£25m o gyllid Ewropeaidd), a reolir gan bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, yn cael eu cynnwys ar restr prosiectau Llywodraeth Cymru, byddai’r arian cysylltiedig yn cyfateb i 50 y cant o holl wariant yr UE a gymeradwywyd yng Nghymru hyd yn hyn.
Rhoddir y manylion am y buddiolwyr a gynorthwywyd hyd yn hyn ar wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Dangosir rhai o’r llwyddiannau o ran canlyniadau, fel ar 31 Awst 2011, yn y tabl isod:
Llwyddiant o ran canlyniadau |
Rhaglenni’r ERDF |
Rhaglenni’r ESF |
Cyfranogwyr a gynorthwywyd |
Amherthnasol |
229,948 |
Cyfranogwyr sy’n dechrau gweithio |
Amherthnasol |
28,470 |
Cyfranogwyr sy’n ennill cymwysterau |
Amherthnasol |
67,846 |
Mentrau a gynorthwywyd |
5,704 |
Amherthnasol |
Mentrau a grëwyd |
1,762 |
Amherthnasol |
Nifer y swyddi a grëwyd (gros) |
8,022 |
Amherthnasol |
Atodiad 2
List of consultees tbc
Annex 1- Background information
Who are we?
The Finance Committee is a cross party committee of the National Assembly for Wales, made up of Members from all four political parties represented at the Assembly.
The Committee is not part of the Welsh Government. Rather, the Committee is responsible for reporting on proposals laid before the Assembly by Welsh Ministers relating to the use of resources.
What European Structural Funds does Wales currently qualify for?
For the programming period 2007–2013, Wales qualifies for European Structural Funds support for three types of programmes:
¡ Convergence - (West Wales and the Valleys)
¡ Regional Competitiveness and Employment – (East Wales)
¡ Territorial Co-operation, including the Ireland-Wales Cross-border programme
The Welsh European Funding Office (WEFO) is part of the Welsh Government and manages the delivery of the Convergence and Competitiveness programmes in Wales.[3] They are focused on creating sustainable jobs and growth in line with European Union’s Lisbon and Gothenburg agendas, and the policies and strategies of the Welsh Government.
The Convergence programmes for West Wales and the Valleys comprise funding from two separate European Structural Funds: the European Regional Development Fund (ERDF - £1 billion) and the European Social Fund (ESF - £690 million). The ERDF funds are intended to progress the region’s transformation into a sustainable and competitive economy by investing in the knowledge economy and helping new and existing businesses to grow. It also focuses on regenerating Wales’ most deprived communities, tackling climate change and improving transport. The ESF funds are to be used to tackle economic inactivity, increase skills and employment. It is expected that, together with match funding, Convergence will drive a total investment of £3.5 billion in West Wales and the Valleys. Convergence funding accounts for over 90 per cent of the total value of the structural funds managed by the Welsh Government during the current programme period.
The Regional Competitiveness and Employment programmes also comprise funding from the ERDF (£60 million) and the ESF (£50 million). Competitiveness ERDF is intended to be used to help Wales’ economic, social and environmental transformation, by helping new and existing businesses to grow and move up the value chain, and increase the ‘value added’ per job. It will also focus on regenerating Wales’ most deprived communities and tackling climate change. Competitiveness ESF is to be used to tackle economic inactivity, increase skills and employment. It is expected that, together with match funding, the total investment of the Competitiveness programme will be around £280 million.
As at 31 August 2011 a total of 233 projects have been approved, representing a total investment of over £3.1bn (EU funds £1.55bn - 82% of total EU funds) across Wales. The following table shows the value of programme investment as at 31 August 2011.[4] (£m) |
|||
|
Total |
ERDF programmes |
ESF programmes |
EU Funds to Wales |
1,906 |
1,136 |
770 |
Total allocation (inc. match funding) |
3,256 |
2,007 |
1,249 |
EU funds committed to EU projects |
1,550 |
848 |
701 |
Total committed (inc. match funding) |
3,130 |
1,798 |
1,331 |
EU funds expenditure claimed by EU projects and paid by WEFO |
469 |
256 |
214 |
Total expenditure by EU projects |
990 |
572 |
418 |
The current round of European programmes (2007-2013) is scheduled to close to applicants on 31 December 2013, although expenditure will continue into 2015. According to WEFO there is a greater strategic approach to the delivery of the funds for this programming round, with fewer, more strategic projects delivering on the priorities of the Operational Programmes, as compared to the programmes in the 2000-2006 round.
As an example of the greater strategic approach to delivery, a brief analysis of beneficiaries shows that public sector led projects account for around 93 per cent of the total funding approved to date.
The Welsh Government is the lead sponsor of 91 projects, with EU funding totaling £691 million. This represents almost 40 per cent of projects and almost 45 per cent of EU funding approved to date. If the JEREMIE scheme (£60m EU funding), managed by Finance Wales, and the JESSICA scheme (£25m EU funding), managed by the Regeneration Investment Fund for Wales LLP, are included within the Welsh Government’s list of projects the associated funding represents 50 per cent of the total EU funding approved to date in Wales.
Details of the beneficiaries supported to date are available on the WEFO website. However some of the key output achievements as at 31 August 2011, are shown in the table below:
Output achievement |
ERDF programmes |
ESF programmes |
Participants assisted |
n/a |
229,948 |
Participants entering employment |
n/a |
28,470 |
Participants gaining qualifications |
n/a |
67,846 |
Enterprises assisted |
5,704 |
n/a |
Enterprises created |
1,762 |
n/a |
Jobs (gross) created |
8,022 |
n/a |
Annex 2
Welsh Assembly Government (including WEFO) |
South West Regional Development Agency |
DG Employment, Social Affairs and Equal Opportunities |
DG Regional Policy |
Bridges into Work |
Building the Future Together |
Valleys Kids |
CollegesWales |
Officials from the Welsh European Funding Office and the Chair of the Programme Monitoring Committee |
The Princes Trust |
Wales Council for Voluntary Action |
Bevan Foundation |
Cymru Yfory |
Centre for Migration Policy Research |
Economic and Social Research Council |
Joseph Rowntree Foundation |
UK Law and HIV/AIDS Project |
High Performance Computing Wales |
Engineering Education Scheme Wales |
Jobcentre Plus |
Finance Wales |
Big Lottery Fund |
Fairbridge De Cymru |
Cynon Valley Crime Prevention |
Hyfforddiant Parys Training |
All Wales Ethnic Minority Association |
Careers Wales Association |
New Sandfields Aberavon |
Computeraid Limited |
Cyrenians Cymru |
National Offenders Management Services |
Wales Co operative Centre |
Bridge Marine Science Group |
BTCV Cymru |
Remploy Limited |
Regeneration Investment Fund for Wales LLP |
Cymdeithas Tai Eryri |
Skillset Cymru |
Forestry Commission Wales |
Menter Mon |
Chwarae Teg |
UK Steel Enterprise Limited |
Parc Busnes Treorci |
Sustrans |
Higher Education Funding Council for Wales |
Tidal Energy Limited |
Countryside Council for Wales |
Skills for Justice |
Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn |
Waste and Resources Action Programme |
Furnace Farm Limited |
Constructing Excellence in Wales |
National Trust |
Coalfields Regeneration Trust |
Wales Co-operative Centre |
Network Rail |
Pakistan Association of Newport & Gwent Welsh Asian Council |
|
Local Authorities |
Blaenau Gwent County Borough Council |
Bridgend County Borough Council |
Caerphilly County Borough Council |
Cardiff County Council |
Carmarthenshire County Borough Council |
Ceredigion County Council |
City and County of Swansea |
Conwy County Borough Council |
Denbighshire County Borough Council |
Flintshire County Borough Council |
Gwynedd Council |
Isle of Anglesey County Council |
Merthyr Tydfil County Borough Council |
Monmouthshire County Borough Council |
Neath Port Talbot County Council |
Newport City Council |
Pembrokeshire County Council |
Powys County Council |
Rhondda Cynon Taff County Borough Council |
Torfaen County Borough Council |
Vale of Glamorgan Council |
Wrexham County Borough Council |
|
Further Education Colleges |
Barry College |
Bridgend College |
Coleg Ceredigion |
Coleg Glan Hafren |
Coleg Gwent |
Coleg Harlech |
Coleg Llandrillo Cymru |
Coleg Menai |
Coleg Morgannwg |
Coleg Powys |
Coleg Sir Gâr |
Deeside College |
Gower College Swansea |
Llysfasi College |
Merthyr Tydfil College |
Neath Port Talbot College |
Pembrokeshire College |
St David's Catholic College |
Yale College Wrexham |
Ystrad Mynach College |
|
Official Agencies |
Care Council for Wales |
Children's Commissioner for Wales |
Older People’s Commissioner for Wales |
Equality and Human Rights Commission |
Health and Safety Executive |
Wales Audit Office |
Welsh Language Board |
Welsh Local Government Association |
|
Universities |
University of Wales |
Aberystwyth University |
Swansea University |
University of Glamorgan |
Bangor University |
Cardiff Business School |
|
Other |
CBI Wales/Cymru |
Alliance of Sector Skills Councils Wales |
Wales TUC |
Federation of Small Businesses |
Venture Wales |
NESTA |
[1] Nid yw’r rhaglenni Cydweithio Tiriogaethol yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru.
[2] Rhoddir cyllidebau’r rhaglenni mewn ewros. Mae’r ffigurau mewn punnoedd wedi’u seilio ar amcangyfrifon, a byddant yn amrywio yn ôl newidiadau yn y gyfradd gyfnewid dros gyfnod y rhaglenni. Talgrynnwyd y ffigurau i’r filiwn agosaf, ac maent wedi’u seilio ar ddata a gasglwyd ac a gyflwynwyd gan noddwyr prosiectau.
[3] The Territorial Co-operation programmes are not managed by the Welsh Government.
[4] The programmes’ budgets are given in Euros. The pound sterling figures are based on estimates and will vary with changes in the exchange rate during the lifetime of the programmes. Figures are rounded to the nearest million and are based on achieved data submitted by project sponsors.